Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | Gorffennaf 1644 |
Lleoliad | Croesoswallt |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Brwydr yn ystod Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr oedd Brwydr Croesoswallt a ymladdwyd ar 22–23 Mehefin 1644, pan ymosododd y Seneddwyr dan arweiniad Basil Feilding, 2il Iarll Dinbych, garsiwn y Brenhinwyr yng Nghroesoswallt, Swydd Amwythig, a'i gipio.[1] Arweiniodd Thomas Mytton y milwyr i gymryd y dref ym Mehefin 1644.[2]
Ar 22 Mehefin cipiodd y Seneddwyr eglwys Sant Oswallt a safai y tu allan i furiau'r dref ac yna dymchwel prif borth y dref ag ergydion o ganon. Ciliodd amddiffynwyr y Brenhinwyr i Gastell Croesoswallt a meddiannwyd y dref gan y Seneddwyr. Ildiodd garsiwn y Brenhinwyr y bore canlynol.